I gymryd rhan:
Cam Un – Dewis Delwedd
Dewis y ddelwedd yr hoffech chi ei defnyddio. Gall fod yn ddelwedd stoc sy’n cael ei defnyddio lot mewn memynnau, neu’n un o’ch lluniau eich hun. Mae gan lawer o lwyfannau creu-memynnau ddelweddau y gallwch chi eu defnyddio, er enghraifft MemeGen a Memgenerator. Mae gyda ni hefyd dudalen arall sydd â rhestr o wefannau a ddefnyddir yn aml.
Cam Dau – Ychwanegu Testun
Gan ddefnyddio unrhyw lwyfan creu-memynnau neu feddalwedd arall, dewis y testun fydd yn mynd ar dop ac ar waelod y ddelwedd. Gall y testun fod yn ddoniol neu’n fyfyriol – rydyn ni’n eich annog chi i greu memynnau sy’n cyfeirio at gynnal neu adfywio iaith.
Cam Tri – Cadw a Llwytho’r Memyn i Fyny
Cadw’r ddelwedd a’i llwytho i fyny i’ch hoff lwyfan cyfrwng cymdeithasol (e.e. Instagram, Twitter, Facebook)
Cam Pedwar – Ychwanegu Hashnodau
- Ychwanegu’r hashnod #MemeML
- Ychwanegu hashnod yr iaith (e.e. #Cymraeg)
Cofiwch: mae hyrwyddo amrywiaeth ieithyddol ar-lein yn golygu y gallwch chi gyfathrebu mewn unrhyw iaith heb orfod darparu’r cynnwys digidol i bobl nad yw’n siarad yr iaith. Ond, os hoffech chi gyrraedd cynulleidfa ehangach, bydd gyda chi’r dewis o ddarparu cyfieithiad cyffredinol yn y testun disgrifiadol ar gyfer unrhyw syniadau sy’n anodd eu cyfieithu’n llythrennol.
Cam Pump – Ymuno â’r Her
- Dod o hyd i bobl eraill sy’n rhannu eu memynnau gyda’r hashnod #MemeML ar Instagram, Twitter neu Facebook a gwneud sylw, rhannu, ail-drydar ac ail-bostio.
- Chwilio am yr hashnod ar gyfer eich iaith. Dilyn pobl eraill sy’n creu memynnau yn eich mamiaith (e.e. #Cymraeg).
- Tagio rhywun arall a gosod her iddyn nhw greu ei memyn eu hunain. Cysylltu â phobl eraill sy’n dathlu amrywiaeth ieithyddol.
Cam Chwech: Mwynhau!